Fixture

Caernarfon RFC | 1st Team 12 - 47 Nant Conwy RFC | 1st Team

Match Report
18 February 2018 / Team News

Caernarfon 12 - Nant Conwy 47

Caernarfon found the going tough from the off against a well drilled and focused Nant outfit who finally ran out comfortable 47 - 12 winners. The first ten minutes set the tone with Nant quicker in deed and thought and aided by a dominant scrum. Evergreen  Carwyn Ellis drove purposefully in open play and scored the easiest of tries at the base of an advancing scrum after seven minutes with the extras being added by Arthur Lennon. Ellis soon set up a blind side move that saw wing Steffan Horan provide the final inside pass to prop Robin Glyn who pirouetted his way to the try line, affording Lennon another well struck conversion.

The Cofis slowly began to gain a greater share of possession and industrious scrum half Michael Downey did manage to cross the try line but was held up. However the momentum was maintained and on their next venture into opposition territory a sweeping move amongst the backs saw wing Dylan Gwyn stretch the defence before providing a timely inside pass that found onrushing captain Iolo Hughes who surged through to score. The conversion attempt from Dominic Yau on this occasion came off the upright.

The pace and apparent telepathy between everyone in a green shirt was impressive, this being demonstrated prior to scoring their third try when an unorthodox pass from competent fullback Sion Pringle found favour with the referee to provide wing Jack Moriarty with the points. Lennon again converted but minutes later his own guile and pace took him clear to score a fine individual try that he again converted to bring the first half scoring to a close.  

Pringle lit up the beginning of the second half with a run from his own half that cut through the Cofi rearguard and it was surprising that a score did not ensue. However within a few minutes influential captain Ifan Lloyd Jones was in the correct place to stroll over when the ball squirmed from a ruck on the home twenty two. His contribution was significant in open play but he had the added capacity of securing turnovers when defending close to rucks and mauls. Lennon converted to maintain his 100% record.

A number of changes in personnel appeared following fifty minutes and the Cofis for once gained a far greater element of parity at scrum time. However just past sixty minutes a ball that squirmed from a stable scrum was snapped up by Nant and soon Arthur Lennon was once again on his way to score his side's sixth try. He opted for a drop kick from distance to add the extras and was again successful. Nant's final foray with ten minutes to play again saw Lennon break clear to record his personal tally of twenty seven points but on this occasion the conversion drifted wide. Caernarfon were still game enough and exerted pressure for the remainder of the game but were met by stern opposition by Ifan Lloyd Jones and mobile second row Carwyn Roberts in particular. However they did, to their credit, claim the last word, when number 8 Mac Jones latched on to a pass in midfield and powered through numerous attempts to tackle, to secure a fine individual try with Dominic Yau on this occasion bisecting the posts to add the extras.

Nant will surely march on to another league title whilst Caernarfon will not be too disheartened, for they succeeded to stem the tide and show an element of character that should stand them in good stead for the remainder of the season.

Bu gwylio cyfran helaeth o'r gêm hon yn  bleser, gan fod safon y trafod a'r cefnogi o'r safon uchaf o'r cychwyn. O'r dechrau 'roedd bygythiad Nant yn amlwg gyda'r cyflymder a'r gefnogaeth oedd yn cael ei gynnig i ddeilydd y bêl yn hynod gelfydd. O fewn y deg munud cyntaf sgoriwyd dau gais, gyda arweiniad Carwyn Ellis yn allweddol. Ei fylchiad ef ac yna ei reolaeth wrth fon y sgrym ddaeth ar pwyntiau agoriadol gyda Arthur Lennon yn ychwanegi y trosiad.  O fewn munudau 'roedd yn arwain bylchiad ar yr ochr dywyll ddaeth a chais i'r prop Robin Glyn wedi rhediad a phas gelfydd Steffan Horan. Llwyddodd Lennon unwaith eto i ychwanegu y trosiad.

Brwydrodd y Cofis yn ôl gan sicrhau rhyw gyfran o'r meddiant gyda Michael Downey yn croesi ond yn methu a thirio. O barhau i bwyso gwelwyd symudiad addawol a welwyd Dylan Gwyn yn clymu'r amddiffyn gyda phas mewnol yn canfod y capten Iolo Hughes a lwyddodd i fylchu'r amddiffyn a sgorio cais gwych.

Yn y cyfamser 'roedd chwaraewyr Nant ar yr un donfedd, yn fentrus ac yn cefnogi yn gelfydd. Dyma ddaeth a'i trydydd cais, pan i bas anghonfensiynol Sion Pringle y cefnwr, gaeth gêm i'w chanmol, gael ei dderbyn gan y dyfarnwr i roi cais rhwydd i'r asgellwr Jack Moriarty. Trosodd Lennon eto, ac yn wir ei feistrolaeth a'i gyflymder ef greodd y bylchiad i sgorio cais unigol gwych i ddod a sgorio'r hanner i ben gan ychwanegu y trosiad i gadw ei record 100%.

Pringle oleuodd dechreuad yr ail hanner gyda bylchiad o'i hanner ei hun â adawodd llu o'i ôl ond yr rhyfeddol ni ddaeth cais. Er hyn, o barhau i bwyso llwyddodd y capten dylanwadol  Ifan Lloyd Jones i fod yn yr union le, pan dasgodd pêl allan o ryc i roi cais hawdd iddo. 'Roedd ei gyfraniad yn y chwarae rhydd yn ddylanwadol a'i allu i ddwyn pêli pan yn amddiffyn yn agos sgarmesi yn ddyheug. Llwyddodd Lennon i drosi unwaith eto.

Taflwyd nifer o eilyddion i'r frwydr wedi hanner cant munud ac fe fu hyn yn gymorth i'r Cofis hawlio rhyw gymaint o gydraddoldeb pan yn sgrymio. Er hyn pan i bêl ymddangos yn annisgwyl ar ochr sgrym, Nant ymatebodd gyntaf ac o gyrraedd Lennon fe'i gwelwyd yn carlamu'n glir i sgori a throsi drwy ddefnyddio cic adlam. Fo hefyd ddaeth a sgorio Nant i derfyn gan dorri yn glir unwaith yn rhagor, ac o sgorio, cyfrannu saith pwynt ar hugain o'r cyfanswm, er i'r trosiad fethu y tro hwn.

Cafodd Caernarfon gyfnod llewyrchus am y deng munud olaf, gan bwyso yn gyson, ond bu iddynt ganfod Ifan Lloyd Jones a'r ail reng Carwyn Roberts yn ddrain cyson i'w rhwystro. Er hyn fe gafwyd y gair olaf pan i bas ryddhau yr wythwr Mac Jones yng nghanol cae, a'i rediad cryf tywyllodrus yn llwyddo i hollti'r amddiffyn i sgorio cais unigol gwych. Ychwanegodd Dominic Yau y trosiad i wneud i fyny am daro'r postyn yn dilyn y cais cyntaf.

Gellir tybio bod Nant yn anelu am bencampwriaeth arall tra gall Caernarfon gymryd cysur o wybod eu bod wedi brwydro nôl a dangos y cymeriad fydd ei angen i sicrhau clo derbyniol i'r tymor.

 
Players Fixture player info not published.
Gallery
|