Clwb Rygbi Caernarfon

Newyddion

Mae Ewrop yn dod i Gymru!

Cyhoeddwyd ar 09/07/09 @ 22:28

Garin Jenkins yw Llysgennad 10fed Gŵyl Rygbi'r Hen Hogia (a genod!) Ewrop yng Nghaernarfon yn 2010

Mae Garin Jenkins, cyn chwaraewr Abertawe, Cymru a Llewod Ynysoedd Prydain a'r Iwerddon, wedi croesawu'r cyfle i fod yn Lysgennad y 10fed Gŵyl Rygbi'r Hen Hogia Ewrop yng Nghaernarfon ym mis Mehefin 2010.

"Wedi derbyn y fraint o gynrychioli fy mhentre a fy ngwlad ar lawer o lwyfannau mawr rygbi y byd, 'rwy'n hynod o falch o gael fy ngwahodd i fod yn Lysgennad ar gyfer yr Ŵyl yma yn 2010, fydd ymryson o'r dewr, y tlws a'r breintiedig" meddai Garin wrth dderbyn yr her o fod yn Lysgennad yr Ŵyl.

Mae cartref Y GOGs (Geriatrics O Gymru) yng Nghlwb Rygbi Caernarfon yng Ngogledd Cymru a nhw yw'r unig d

Back to the News Page