Newyddion
Cyfarfod Blynyddol Cyffredinol
Cyhoeddwyd ar 12/04/12 @ 14:37
Cynhelir y Cyfarfod Blynyddol Cyffredinol ar nos Wener, Mai'r 11eg am 7:30pm.
Mae rhestr o swyddogion a phwyllgor y Clwb ar y dudalen Digwyddiadau. Mae'r deiliad cyfredol wedi ei nodi yn erbyn y swydd. Yn ôl y drefn bydd angen llenwi'r swyddi yma yn y Cyfarfod Blynyddol.
Mae angen enwebiadau erbyn dydd Gwener 27 Ebrill 2012 ar gyfer bob swydd, heblaw'r rhai sydd wedi eu nodi Bl 1af.
Bydd hefyd angen cyflwyno unrhyw gynnig ar gyfer pwnc i'w drafod yn y Cyfarfod Blynyddol neu newid i'r cyfansoddiad erbyn dydd Gwener 27 Ebrill, 2012.