Newyddion
Cylchlythyr Ionawr
Cyhoeddwyd ar 26/01/12 @ 15:28
Rygbi
Yn dilyn buddugoliaeth dros Bro Ffestiniog mewn gem agos ar y Morfa mae Tim 1af rwan ar 60 pwynt - 6 pwynt uwchben Nant (54) a 14 pwynt uwchben Bro (46). Mae'r gemau i ddod yn hollbwysig os am gipio'r gynghrair eto eleni.
Mae gem dydd Sadwrn i ffwrdd yn Nant Conwy yng nghystadleuaeth Plât Swalec.
Stiwardio yn gemau Dan 20 Cymru
Mae'r Rygbi'r Gogledd yn chwilio am stiwardiaid ar gyfer gemau cartref Cymru Dan 20 ym Mharc Eirias.
Mae cwrs canol wythnos i'w fynychu, a bydd angen bod yna erbyn 5.30 ar y diwrnod. Gellir gweld y gem a bydd te a choffi ar gael.
Y dyddiadau yw Yr Alban - 10 Chwefror, Yr Eidal - 9 Mawrth, Ffrainc - 16 Mawrth.
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:
Shaun Thompson shaun.thompson@conwy.gov.uk 07733012843, Jane Thomas 01492 575564 neu Lynda Hughes 01492 575563.
Tocynnau Rhyngwladol
Ar hyn o bryd mae 4 tocyn gem Yr Eidal (£66) a 4 i gem Yr Alban (£25) yn weddill.
Cysylltwch os oes gennych chi ddiddordeb.