Clwb Rygbi Caernarfon

Hanes

Sefydlwyd Clwb Rygbi Caernarfon yn 1973 yn dilyn cyfarfod pwyllgor yn yr hen Marbryn.

Y flwyddyn honno yw pen-blwydd swyddogol y clwb ond roedd gan Clwb Rygbi Caernarfon gyfrif banc nôl ym 1960.

Fel esbonnir chapten cyntaf y clwb, Alun Roberts:

"Roedd 'na griw ohonan ni yn chwarae yn erbyn Llandudno bob Boxing Day," meddai Alun 'Cwstard' Roberts, capten cyntaf Clwb Rygbi Caernarfon.

"Gêm yn y pnawn, dw mawr yn nhy Harland Greenshields yng Nghaeathro wedyn ac yna lawr i'r Royal i ddawnsio. Fe waethon ni hyn am flynyddoedd ond methu a chael digon o chwaraewyr i sefydlu clwb go iawn bob tro.

"Roedd y cyfri banc reit iach ond fe rannon ni'r arian hefo Llandudno yn y diwedd jyst cyn i ni ddechrau'r clwb yn swyddogol"

Roedd hynny ym 1973. Cafwyd pwyllgor yn y Marbryn gyda pobl fel y diweddar Des Treen, Stuart Gifford a Wally Hewer.

"Roeddwn i, Einion Angel a Clive James yno hefyd os cofia i'n iawn," meddai Alun.

Einion oedd ysgrifennydd cynta'r Clwb a syndod i rai efallai fyddai deall mai'r hyfforddwr ffitrwydd oedd Wyn Davies, Mr Pêl-droed ac athro ymarfer corff Syr Hugh.

"Roedd Wyn yn grêt ac Einion a finna wedyn yn gyfrifol am hynny o dactegau oedd ganddon ni," meddai Alun. "Yn y Hole in the Wall oeddan ni'n cyfarfod ar y dechra. Ond fe gerddon ni rownd Dre - o Twtil i Blac - cyn prynu'r hen glwb yn Lôn Gas."

Y Tim Cyntaf 1974/75

Yr adeilad chwedlonol hwnnw yn Ffordd Santes Helen fu cartre'r clwb wedyn am bron i ddeunaw mlynedd.

Mae llu o atgofion rhwng ei furiau: nosweithiau Bara Caws, nosweithiau Ffrengig unwaith y mis heb s7ocirc;n am wythnos anhygoel y Steddfod Genedlaethol ym 1979. Cymrwyd ymhell dros ugain mil o bunnau tu ôl i'r bar yr wythnos honno a wnaiff Alun byth anghofio'r nos Sul gynta. Roedd y Dre yn sych ar y Sul bryd hynny ac roedd 'na giw o gyfeiriad yr Albert dros y lein i lawr am y clwb pan gyrhaeddodd Alun, at ei ben ei hun bach, i agor.

Do, gwagiwyd sawl casgen yr wythnos honno. Er, ni fu'r clwb yn enwog am safon ei gwrw bob tro. Cofia Alun yn dda y drafodaeth fu am brynu coolers. Rheiny neu beiriant sgrymio oedd y pwnc dadleuol. Penderfynwyd ar y 'coolers' o un bleidlais - wrth lwc. Roedd Alun wedi eu harchebu cyn y bleidlais! Prysurwn i ddweud fod y peiriant sgrymio wedi cyrraedd yn fuan ar ôl hynny hefyd.

Yn 1980 fe gafodd y clwb caeau rygbi newydd ar Y Morfa, ger Ysbyty Eryri. Yn 1989 fe gafodd y clwb ganiatad cynllunio i adeiladu clwb newydd ar Y Morfa, a fe agorwyd yr estyniad newydd ar gyfer noson Galan 1990.

O safbwynt cyfleusterau, mae'r clwb yn barod i ddatblygu'r adeilad ar Y Morfa i gynnwys ystafelloedd newid a thoiledau ychwanegol a chegin newydd.