Clwb Rygbi Caernarfon

Adran Iau

Croeso i wefan Adran Iau, Clwb Rygbi Caernarfon.

Taith rygbi'r gwanwyn: Llandeilo a Sgarlets Llanelli, Mai 4-6 2012

Oes gennych chi blentyn yn chwarae i dimau rygbi dan 10, 11, 12, 13 neu 14? Oes gennych chi ddidordeb mewn daith i Landeilo (gemau i'r plant) a Llanelli (i weld gem ola'r tymor rhwng y Sgarlets a'r Gleision)? Lawrlwythwch y ffurflen wybodaeth, a chysylltwch â trefnydd gemau Morgan Parry ar morganparry@btinternet.com mor fuan ag sy'n bosib i ddatgan eich diddordeb.

Mae'r Clwb yn croesawu pobl ifanc (hogiau a genod) o 7 i 16 oed i ymarfer a chwarae rygbi - hyd yn oed os nad ydynt wedi chwarae rygbi o'r blaen. Nid oes tal aelodaeth i'r pobl ifanc, ond gofynnir i'w rhieni cyfrannu at y Clwb mewn dulliau ymarferol.

Rydym yn chwarae yn erbyn timau ar hyd a lled y Gogledd a'r Canolbarth. O Flwyddyn 7 ymlaen mae cyfle i chwaraewyr deithio i rannau eraill o Gymru, Iwerddon ac hyd yn oed i Ffrainc.

Mae'r hyfforddwyr i gyd wedi ennill cwymhwyster hyfforddiant cenedlaethol priodol, ac wedi derbyn tytstysgrif CRB. Dyfarnir gemau gan ddyfarnwyr awdurdodedig.

Mae blynyddoedd ysgol 2, 3 ,4, 5 a 6 yn ymarfer ar nos Wener o 6pm hyd 7pm. Gofynnir i rieni plant Bl 2 a 3 aros ar Y Morfa yn ystod ymarfer a gemau. Mae blynyddoedd 7, 8, 9, 10 ac 11 yn ymarfer ar nos Fawrth o 6pm hyd 7.30pm.

Mae gemau yn cael eu cynnal fel arfer ar fore Sul. Dewch draw i ymuno a ni.

Cyswllt: Morgan Parry 07748 983 031.

Ffeiliau:

Os cewch chi drafferth yn agor y ffeiliau hyn, gall Adobe Reader eu hagor.